Math | llygredd |
---|
Mae llygredd etifeddol neu llygryddion a etifeddwyd yn ddeunyddiau parhaus yn yr amgylchedd a grëwyd trwy ddiwydiant neu broses llygru sy'n parhau wedi i'w defnydd arferol ddod i ben. Yn aml mae'r rhain yn cynnwys llygryddion organig parhaus, metalau trwm neu gemegau eraill sydd ar ôl yn yr amgylchedd ymhell ar ôl iddynt gael eu defnyddio.[1][2][3][4] Yn aml, cemegau yw'r rhain a gynhyrchir gan ddiwydiant ac a lygrwyd gan un genhedlaeth cyn bod ymwybyddiaeth eang o effeithiau gwenwynig y llygryddion; mae'n broblem a etifeddwyd gan y genhedlaeth nesaf.[3] Mae llygryddion etifeddol nodedig yn cynnwys arian byw, PCBs, Deuocsinau a chemegau eraill sy'n effeithio ar iechyd pobl a'r amgylchedd.[5][3] Mae safleoedd ;;e ceir llygryddion etifeddol yn aml yn cynnwys safleoedd mwyngloddio, parciau diwydiannol, dyfrffyrdd sydd wedi'u halogi gan ddiwydiant, mwynlifoedd a safleoedd dympio eraill.
Yn aml, mae'r nwyddau neu'r cemegolyn yn cael ei greu mewn un wlad ac yna'n cael ei drosglwyddo i wlad arall, tlotach lle mae'n dod yn yn broblem sut i'w waredu.[4] Yn aml yn y gwledydd hyn, mae diffyg seilwaith rheoleiddio amgylcheddol, iechyd a dinesig i fynd i'r afael a'r broblem.[4]
Gall y llygredd etifeddol barhau'n broblem am flynyddoedd, ac mae angen datrus y broblem drwy drin y cemegolion a glanhau'r amgylchedd.[6] Un o'r dulliau diweddar mae'r trigolion lleol (ymgyrchwyr amgylcheddol fel rheol) yn delio gyda'r broblem yw drwy gyfiawnder amgylcheddol, sef erlyn y cyrff a greodd y broblem yn y lle cyntaf ar sail fod ganddynt hawl i amgylchedd iach.[6][7][8]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search